John 3:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s pan ddywetaf ychwy pethe daiarol, ny chredwch, pa vodd a’s dywetwyf ychwy, am pethae nefolion y credwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os pethau daearol a ddywedais wrthych, ac na chredwch, pa fodd os dywedaf wrthych bethau nefol, y credwch?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os am bethau’r ddaear y dywedais wrthych ac ni chredwch, pa fodd os dywedaf am bethau’r nefoedd, y credwch?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os dw i wedi siarad â chi am bethau sy'n digwydd ar y ddaear a dych chi ddim yn credu, sut byddwch chi'n credu os gwna i siarad am bethau'r byd nefol?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os nad ydych yn credu ar l imi lefaru wrthych am bethau'r ddaear, sut y credwch os llefaraf wrthych am bethau'r nef?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os dywedais i chwi y pethau a wneir ar y ddaear, a chwithau nid ydych yn credu, pa fodd, os dywedaf i chwi y pethau a wneir yn y Nefoedd, y credwch?