John 3:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn vn a cred ynthaw ef, ny vernir: a’r vn ny thred a varnwyt eisioes can na chred odd yn. Enw yr vnigenit vap Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n credu Ynddo ni fernir; yr hwn nad yw yn credu, eisoes y’i barnwyd, o herwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y neb a gredo ynddo nis bernir; y neb nid yw’n credu, y mae ef wedi ei farnu eisoes, am nad yw wedi credu yn enw uniganedig fab Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig‐anedig Fab Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy'r rhai sy'n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae'r rhai sydd ddim yn credu wedi eu condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw neb sy'n credu ynddo ef yn cael ei gondemnio, ond y mae'r sawl nad yw'n credu wedi ei gondemnio eisoes, oherwydd ei fod heb gredu yn enw unig Fab Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid yw yr hwn sydd yn credu ynddo ef yn cael ei farnu: eithr yr hwn nid yw yn credu sydd wedi ei farnu eisioes, o herwydd nad ydyw wedi credu yn enw Unig‐anedig Fab Duw.