John 3:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hynn yw’r varnedigaeth, can ðyvot golauni ir byt, a’ chary o ddynion dywyllwc h yn vwy na’r golauni, o erwydd bot y gweithrededd wy’n ðrwc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hon yw’r farn, Fod y goleuni wedi dyfod i’r byd, a charodd dynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni, gan mai drwg oedd eu gweithredoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyma’r farn, bod y goleuni wedi dyfod i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn hytrach na’r goleuni, oherwydd mai drygionus oedd eu gweithredoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hon yw'r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r dyfarniad: Mae golau wedi dod i'r byd, ond roedd pobl yn caru'r tywyllwch yn fwy na'r golau, am eu bod nhw'n gwneud drygioni o hyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma'r condemniad, i'r goleuni ddod i'r byd ond i ddynion garu'r tywyllwch yn hytrach na'r goleuni, am fod eu gweithredoedd yn ddrwg.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hon yw y farnedigaeth: Y mae y Goleuni wedi dyfod i'r byd, a dynion a garasant y Tywyllwch yn hytrach na'r Goleuni; canys eu gweithredoedd oeddynt ddrwg.