John 3:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn a ðeuth at yr Iesu liw nos, ac a ðyvot wrthaw, Rabbi, ni y wyddam mae dyscawdur wyt wedy dyvot y wrth Dduw: can na ddychon nep wneythy’r y gwrthiae hyn a wney di, a ny byðei Duw gyd ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwn a ddaeth Atto Ef liw nos, ac a ddywedodd Wrtho, Rabbi, gwyddom mai oddiwrth Dduw y daethost yn ddysgawdwr, canys yr holl arwyddion hyn y rhai yr wyt Ti yn eu gwneuthur, nid oes neb a all eu gwneuthur oddieithr i Dduw fod gydag ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Daeth hwn ato yn y nos, a dywedodd wrtho: “Rabbi, gwyddom mai oddiwrth Dduw y daethost yn ddysgawdwr, gan na all neb wneuthur yr arwyddion yma yr wyt ti’n eu gwneuthur, oni bydd Duw gydag ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai wrth Iesu, “Rabbi, dŷn ni'n gwybod dy fod di'n athro wedi ei anfon gan Dduw i'n dysgu ni. Mae'r gwyrthiau rwyt ti'n eu gwneud yn profi fod Duw gyda ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth hwn at Iesu liw nos a dweud wrtho, "Rabbi, fe wyddom iti ddod atom yn athro oddi wrth Dduw; ni allai neb wneud yr arwyddion hyn yr wyt ti'n eu gwneud oni bai fod Duw gydag ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
hwn a ddaeth ato ef yn y nos, ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, nyni a wyddom mai Athraw ydwyt wedi dyfod allan oddiwrth Dduw: canys ni all neb wneuthur yr arwyddion hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gyd âg ef.