John 3:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit pop vn yn gwnethy drwc, ys y gas gātho yr golauni, ac ny ðana i’r golauny, rac argyoeddy ei weithredeð
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pob un yn gwneuthur pethau drwg, cas ganddo y goleuni, ac nid yw’n dyfod i’r goleuni fel nad argyhoedder ei weithredoedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae pob un sy’n gwneuthur pethau drwg yn cashau’r goleuni, ac ni ddaw at y goleuni rhag dadlennu ei weithredoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd pob un a'r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casáu'r goleuni, ac nid yw yn dyfod i'r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pawb sy'n gwneud drygioni yn casáu'r golau. Maen nhw'n gwrthod dod allan i'r golau rhag ofn i'w gweithredoedd gael eu gweld.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud drwg yn casu'r goleuni, ac nid yw'n dod at y goleuni rhag ofn i'w weithredoedd gael eu dadlennu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pob un a'r sydd yn ymarfer pethau iselwael sydd yn cashâu y Goleuni, ac nid yw yn dyfod at y Goleuni, fel na ddygid ei weithredoedd i brawf.