John 3:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y bu ’orchest rhwng discipulon Ioan a’r Iuddaeon, yn‐cylch purhau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Bu, gan hyny, ymresymmiad rhwng disgyblion Ioan ac Iwddew ynghylch puredigaeth;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyfododd dadl gan ddisgyblion Ioan gydag Iddew yng nghylch defod glanhad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a'r Iddewon, ynghylch puredigaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dechreuodd rhyw arweinydd Iddewig ddadlau gyda disgyblion Ioan Fedyddiwr am y ddefod o ymolchi seremonïol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cododd dadl rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a rhyw Iddew ynghylch defod glanhad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cyfododd gan hyny ddadl o ran Dysgyblion Ioan âg Iuddew ynghylch puredigaeth.