John 3:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ daethwynt ad Ioan, ac a ddywed e sont wrthaw, Rabbi, hwn oedd y gyd a thi y tu hwnt i Iorddonen, i’r vn y testolaetha i s‐ti, nycha, y batyddia ef, a’ phawp oll ’sy yn dyuot attavv.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a daethant at Ioan, a dywedasant wrtho, Rabbi, yr Hwn oedd gyda thi y tu hwnt i’r Iorddonen, ac i’r Hwn y tystiolaethaist, wele, y mae Efe yn bedyddio, a phawb yn dyfod Atto.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daethant at Ioan a dywedasant wrtho: “Rabbi, yr hwn oedd gyda thi dros Iorddonen, ac yr wyt ti wedi tystio amdano, dyma ef yn bedyddio a phawb yn dyfod ato.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddaethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyda thi y tu hwnt i'r Iorddonen, am yr hwn y tystiolaethaist ti, wele, y mae hwnnw yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma disgyblion Ioan yn dod ato a dweud wrtho, “Rabbi, wyt ti'n gwybod y dyn oedd gyda ti yr ochr draw i Afon Iorddonen — yr un rwyt ti wedi bod yn sôn amdano? Wel, mae e'n bedyddio hefyd, ac y mae pawb yn mynd ato fe.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant at Ioan a dweud wrtho, "Rabbi, y dyn hwnnw oedd gyda thi y tu hwnt i'r Iorddonen, yr un yr wyt ti wedi dwyn tystiolaeth iddo, edrych, y mae ef yn bedyddio a phawb yn dod ato ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyd â thi y tu hwnt i'r Iorddonen, i'r hwn yr wyt ti wedi tystiolaethu, wele, y mae hwn yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef.