John 3:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Chwychwi ychunain yd yw vy‐testion i, ar ddywedyt o hano vi, Nyd mi yw yr Christ, eithr darvot vy ’n anvon o y vlaen ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi y dywedais, “Nid wyf fi y Crist,” eithr “Wedi fy nanfon yr wyf o’i flaen Ef.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr ydych chwi eich hunain yn dystion imi ddywedyd ‘Nid myfi yw’r Eneiniog,’ ond ‘Wedi f’anfon yr wyf o flaen hwnnw.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi, ddywedyd ohonof fi, Nid myfi yw'r Crist, eithr fy mod wedi fy anfon o'i flaen ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n gallu tystio fy mod i wedi dweud, ‘Dim fi ydy'r Meseia. Dw i wedi cael fy anfon o'i flaen e.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych chwi eich hunain yn dystion i mi, imi ddweud, 'Nid myfi yw'r Meseia; un wedi ei anfon o'i flaen ef wyf fi.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwychwi eich hunain ydych yn tystiolaethu i mi ddywedyd, Nid myfi yw y Crist, eithr fy mod i wedi fy anfon o'i flaen ef.