John 3:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn ’sy iddo ddyweddi vvreic, y w’r dyweddiwr: a’ char y dyweðiwr yr hwn a saif ac y clyw ef, a lawenha yn vawr, o bleit llef y dyweddiwr. Y llawenydd hyn meu vi gan hyny a gyf lawnwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sydd a chanddo y briod-ferch, y priod-fab yw; a chyfaill y priod-fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed, â llawenydd y llawenycha oblegid llef y priod-fab. Y llawenydd hwn, gan hyny, mau fi, a gyflawnwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y priodfab yw hwnnw y mae’r briodferch ganddo, ond y mae cyfaill y priodfab sydd yn sefyll ac yn ei glywed yn llawenhau’n fawr wrth lais y priodfab. Dyna fy llawenydd i sydd yn awr yn gyflawn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd ganddo y briodferch, yw'r priodfab: ond cyfaill y priodfab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr oblegid llef y priodfab: y llawenydd hwn mau fi gan hynny a gyflawnwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r briodferch yn mynd at y priodfab. Mae'r gwas priodas yn edrych ymlaen at hynny, ac mae wrth ei fodd pan mae'n digwydd. A dyna pam dw i'n wirioneddol hapus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y priodfab yw'r hwn y mae'r briodferch ganddo; y mae cyfaill y priodfab, sydd wrth ei ochr ac yn gwrando arno, yn fawr ei lawenydd wrth glywed llais y priodfab. Dyma fy llawen-ydd i yn ei gyflawnder.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd ganddo y briod‐ferch yw y priod‐fab: ond cyfaill y priod‐fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr o herwydd llais y priod‐fab: fy llawenydd hwn gan hyny sydd wedi ei gyflawnu.