John 3:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn a ddaeth o dd ucho d, ysy gor uwch pavvp oll: hwn ysy o’r ddaiar, y sy o’r ddayar, ac o’r ddaiar yr ymadrodd: hwn a ddaeth o’r nef y sy goruch pavvp oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n dyfod oddi uchod, goruwch pawb y mae; yr hwn y sydd o’r ddaear, o’r ddaear y mae, ac o’r ddaear y mae ei ymddiddan: yr Hwn y sy’n dyfod o’r nef, goruwch pawb y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn sy’n dyfod oddiuchod, y mae ef uwch ben pawb. Yr hwn sydd o’r ddaear, o’r ddaear y mae ac o’r ddaear y mae’n siarad. Yr hwn sy’n dyfod o’r nefoedd, y mae ef uwchben pawb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a ddaeth oddi uchod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o'r ddaear, sydd o'r ddaear, ac am y ddaear y mae yn llefaru: yr hwn sydd yn dyfod o'r nef, sydd goruwch pawb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth Iesu o'r nefoedd, ac mae uwchlaw pawb arall. Mae unrhyw berson daearol yn siarad fel un sydd o'r ddaear. Ond mae Iesu uwchlaw popeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r hwn sy'n dod oddi uchod goruwch pawb; y mae'r hwn sydd o'r ddaear yn ddaearol ei anian ac yn ddaearol ei iaith. Y mae'r sawl sy'n dod o'r nef goruwch pawb;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn dyfod oddi uchod sydd goruwch pawb: yr hwn sydd o'r ddaear sydd o'r ddaear, ac o'r ddaear y mae yn llefaru; yr hwn sydd yn dyfod o'r Nef sydd goruwch pawb.