John 3:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr hwn a dd anvonawdd Duw, a lafara’ airiae Duw: can nyd wrth vesur y mae Duw yn rhodðy iddo yr Yspryt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yr Hwn a ddanfonodd Duw, ymadroddion Duw a lefara Efe; canys nid wrth fesur y rhydd Efe yr Yspryd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys y mae’r hwn a anfonodd Duw yn llefaru geiriau Duw, oherwydd nid wrth fesur y bydd yn rhoddi’r ysbryd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oherwydd mae Iesu yn dweud yn union beth mae Duw'n ei ddweud. Mae Duw'n rhoi'r Ysbryd iddo heb ddal dim yn ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r hwn a anfonodd Duw yn llefaru geiriau Duw; nid wrth fesur y bydd Duw yn rhoi'r Ysbryd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr hwn a anfonodd Duw, geiriau Duw y mae yn eu llefaru; oblegyd nid wrth fesur y mae efe yn rhoddi yr Yspryd.