John 3:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn a gred yn y Map, y mae iddo vywyt tragyvythawl, a’ hwn nyd vvyddha o i’r Map, ny wyl ef vywyt, any d dig ofain Duw a erys arnaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n credu yn y Mab sydd a chanddo fywyd tragywyddol; ond yr hwn nad yw yn credu yn y Mab, ni wel fywyd, eithr digofaint Duw sydd yn aros arno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn sy’n credu yn y mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo, ond am yr hwn sydd yn anghredu yn y mab, ni wêl ef fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a'r hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae bywyd tragwyddol gan bawb sy'n credu yn y Mab, ond fydd y rhai sy'n gwrthod y Mab ddim hyd yn oed yn cael cipolwg o'r bywyd hwnnw. Bydd digofaint Duw yn aros arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy bynnag sy'n credu yn y Mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo; pwy bynnag sy'n anufudd i'r Mab, ni wl fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragywyddol: ond yr hwn sydd yn anufyddhâu i'r Mab, ni wel fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.