John 3:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nicodemus a ddyvot wrthaw, Pa vodd y dychon dyn eni ac ef yn hen? a all ef vynet i groth ei vam drachefyn, a’ geni?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd Nicodemus Wrtho, Pa fodd y gall dyn ei eni, ac efe yn hen? A all efe fyned i mewn i groth ei fam eilwaith, a’i eni?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Nicodemus wrtho: “Pa fodd y gall dyn gael ei eni, ag yntau’n hen ŵr? A all ef fyned i mewn yn ei ôl i groth ei fam a’i eni?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a'i eni?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Sut gall unrhyw un gael ei eni pan mae'n oedolyn?” gofynnodd Nicodemus. “Allan nhw'n sicr ddim mynd i mewn i'r groth am yr ail waith i gael eu geni felly!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Nicodemus wrtho, "Sut y gall neb gael ei eni ac yntau'n hen? A yw'n bosibl, tybed, i rywun fynd i mewn i groth ei fam eilwaith a chael ei eni?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae Nicodemus yn dywedyd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen ddyn? a ddichon efe fyned i grôth ei fam eilwaith a'i eni?