John 3:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y gwynt lle mynno, a chwyth, a’ ei lef a glywy, eithyr ny wyddost o b’le y daw, ac y bale ydd a: velly y mae pop dyn a a’net o’r Yspryt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y gwynt, lle yr ewyllysia y chwyth, a’i swn ef a glywir; eithr ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y cilia; felly y mae pob un a aned o’r Yspryd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mae’r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei lais, ond ni wyddost o ba le y mae’n dyfod nac i ba le y mae’n myned. Felly y mae pob un a aned o’r ysbryd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae'r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a'r a aned o'r Ysbryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r gwynt yn chwythu i bob cyfeiriad. Rwyt yn clywed ei sŵn, ond dwyt ti ddim yn gallu dweud o ble mae'n dod nag i ble mae'n mynd. Felly mae hi hefyd gyda phawb sydd wedi eu geni drwy'r Ysbryd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei su373?n, ond ni wyddost o ble y mae'n dod nac i ble y mae'n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi ei eni o'r Ysbryd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae yr Yspryd yn anadlu lle yr ewyllysio, a thi a glywi ei lais ef, ond nid ydwyt yn gwybod o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: yr un modd y mae pob un sydd wedi ei eni o'r Yspryd.