John 4:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Atepawdd Iesu ac a ddyuot wrthei, Pe’s adwaenyt ddawn Duw, a’ phwy ’n yw a ddywait wrthyt, Moes i mi ddiawt, tu d i a’ ovynesyt y‐ dd aw ef, ac ef a roesei yty y dw f r byw yt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthi, Ped adwaenit ddawn Duw, a phwy yw’r Hwn sy’n dweud wrthyt, “Dyro i Mi i yfed,” ti a ofynasit Iddo, a rhoddasai i ti ddwfr byw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iesu a dywedodd wrthi: “Pe buasit yn gwybod rhodd Duw, a phwy yw’r hwn sy’n dywedyd wrthyt ‘dyro imi ddiod,’ tydi a fuasai’n gofyn ganddo ef, a rhoesai yntau i ti ddwfr byw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw'r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Taset ti ond yn gwybod beth sydd gan Dduw i'w roi i ti, a phwy ydw i sy'n gofyn i ti am ddiod! Ti fyddai'n gofyn wedyn, a byddwn i'n rhoi dŵr bywiol i ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu hi, "Pe bait yn gwybod beth yw rhodd Duw, a phwy sy'n gofyn iti, 'Rho i mi beth i'w yfed', ti fyddai wedi gofyn iddo ef a byddai ef wedi rhoi i ti ddu373?r bywiol."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenasit ti rodd Duw, a phwy yw yr hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol.