John 4:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
an d pwy pynac a yfo o’r dwfr a roðwy vi ydddaw, ny sycheda yn dragyvyth: eithyr y dwfr a roddwy vi y dd‐ aw a vyð yn d aw yn ffynnō o ddwfr, yn tarðu i’r bywyt tragyvythawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddaf Fi iddo, ni sycheda ddim yn dragywydd, eithr y dwfr a roddaf Fi iddo fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragywyddol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddaf i iddo, ni ddaw syched arno byth yn dragywydd, ond â’r dwfr a roddaf i iddo yn ffynhonnell ddwfr ynddo yn ffrydio i fywyd tragwyddol.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pwy bynnag a yfo o'r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond fydd dim syched byth ar y rhai sy'n yfed y dŵr dw i'n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i'n ei roi yn troi'n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond pwy bynnag sy'n yfed o'r du373?r a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y du373?r a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddu373?r o'i fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond pwy bynag a yfo o'r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn sicr yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo a ddaw ynddo yn ffynon o ddwfr yn tarddu i fyny i fywyd tragywyddol.