John 4:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedawdd y wraic wrthaw, Arglwydd, dyro i mi or dwfr hwnw, val na sychedwyf, ac na ddelwyf yma n y gody dvvr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrtho y dywedodd y wraig, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf ac na ddelwyf yma i dynnu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd y wraig wrtho: “Syr, dyro imi’r dwfr hwn, fel na bo syched arnaf a cherdded yma i dynnu dwfr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai'r wraig wrtho, “Syr, rho beth o'r dŵr hwnnw i mi! Wedyn fydd dim syched arna i eto, a fydd dim rhaid i mi ddal ati i ddod yma i nôl dŵr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Syr," meddai'r wraig wrtho, "rho'r du373?r hwn i mi, i'm cadw rhag sychedu a dal i ddod yma i dynnu du373?r."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae y wraig yn dywedyd wrtho, Syr, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yr holl ffordd yma i dynu dwfr.