John 4:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ein tadae a addolent yn mynyth hwn, a chvvy chwi a ddywedwch, mai yn Caerusalem y mae’r lle y dylir addoly.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ein tadau, ar y mynydd hwn yr addolasant, a chwychwi a ddywedwch mai yn Ierwshalem y mae’r fan lle y dylir addoli.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Addolodd ein tadau ni yn y mynydd hwn, ac yr ydych chwithau’n dywedyd mai yng Nghaersalem y mae’r lle y dylid addoli.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae'r man lle y mae yn rhaid addoli.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dywed wrtho i, roedd ein hynafiaid ni'r Samariaid yn addoli ar y mynydd hwn, ond dych chi'r Iddewon yn mynnu mai Jerwsalem ydy'r lle iawn i addoli.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ein hynafiaid yn addoli ar y mynydd hwn. Ond yr ydych chwi'r Iddewon yn dweud mai yn Jerwsalem y mae'r man lle dylid addoli."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ein Tadau a addolasant yn y Mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerusalem y mae y man lle y mae yn rhaid addoli.