John 4:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a ddyvot wrthei, Ha wreic, cred vy vi, y mae yr awr yn dyuot, pryd na’c yn y monyth hwn, na’c yn Caerusalem yr a ddoloch y Tat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrthi y dywedodd yr Iesu, Cred Fi, O wraig, dyfod y mae’r awr pryd nac ar y mynydd hwn nac yn Ierwshalem yr addolwch y Tad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yr Iesu wrthi: “Cred fi, wreigdda, fod adeg yn dyfod pryd na byddwch yn addoli’r tad yn y mynydd hwn nac yng Nghaersalem.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, cred fi, y mae'r awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Cred di fi, mae'r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn addoli'r Tad yma ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem chwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Cred fi, wraig," meddai Iesu wrthi, "y mae amser yn dod pan na fyddwch yn addoli'r Tad nac ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed yr Iesu wrthi, Cred fi, O wraig, Y mae awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tâd, nac yn y Mynydd hwn nac yn Jerusalem.