John 4:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Chwy chvvi a addolwch y peth ny wyddoch, ny ni a addolwn y peth a wyðam: can ys yr iechyd’sy dd or Iuðeō.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Chwychwi a addolwch y peth ni wyddoch; nyni a addolwn y peth a wyddom, canys iachawdwriaeth, o’r Iwddewon y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr ydych chwi’n addoli’r hyn ni wyddoch a ninnau’n addoli’r hyn a wyddom, am fod y waredigaeth o’r Iddewon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwychwi ydych yn addoli'r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli'r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o'r Iddewon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'r Samariaid ddim yn gwybod beth dych chi'n ei addoli go iawn; dŷn ni'r Iddewon yn nabod y Duw dŷn ni'n ei addoli, am mai drwy'r Iddewon mae achubiaeth Duw yn dod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych chwi'r Samariaid yn addoli heb wybod beth yr ydych yn ei addoli. Yr ydym ni'n gwybod beth yr ydym yn ei addoli, oherwydd oddi wrth yr Iddewon y mae iachawdwriaeth yn dod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwychwi ydych yn addoli y peth ni wyddoch: ninau ydym yn addoli y peth a wyddom; canys yr Iachawdwriaeth sydd o'r Iuddewon.