John 4:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr dyuot y mae yr awr, ac ys owrhon y mae hi, pan yw ir gwir addolwyr addoly y Tat mevv yn yspryt a’ gwirioneð: can ys y Tat a vyn y cyfryw ’r ei y’w addoly ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr dyfod y mae’r awr, ac yr awr hon y mae, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli’r Tad mewn yspryd a gwirionedd, canys y mae’r Tad yn ceisio’r cyfryw rai yn addolwyr Iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y mae’r adeg yn dyfod, ac y mae yn awr, pan addolo’r gwir addolwyr y tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd dyna’n wir y fath a gais y tad yn addolwyr iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond dyfod y mae'r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo'r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae'r Tad yn eu ceisio i'w addoli ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd Ysbryd Duw yn galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd. Pobl sy'n ei addoli fel hyn sydd gan Dduw eisiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli'r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae'r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y mae awr yn dyfod, ac yn awr y mae hi, pan yr addolo yr addolwyr gwirioneddol y Tâd mewn yspryd a gwirionedd: canys y mae y Tâd yn wir yn ceisio y cyfryw fel ei addolwyr ef.