John 4:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedawð y wraic wrthaw Gwn i y daw Messias, ys ef yr hwn a elwir Christ: gwedy y del hwnw, ef a venaic y ni bop peth oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrtho y dywedodd y wraig, Gwn fod y Meshiah yn dyfod (yr Hwn a elwir Crist); pan ddelo Efe, mynega i ni bob peth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd y wraig wrtho: “Gwn fod Meseia yn dyfod, a elwir yn Eneiniog. Pan ddêl hwnnw, fe fynega bopeth inni.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai'r wraig, “Dw i'n gwybod fod Meseia (sy'n golygu ‘Yr un wedi ei eneinio'n frenin’) yn dod. Pan ddaw, bydd yn esbonio popeth i ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai'r wraig wrtho, "Mi wn fod y Meseia" (ystyr hyn yw Crist) "yn dod. Pan ddaw ef, bydd yn mynegi i ni bob peth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed y wraig wrtho, Mi a wn fod y Messia yn dyfod (yr hwn a elwir Crist): pan ddelo hwnw, efe a hysbysa i ni bob peth.