John 4:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn hyn y daeth ey ddiscipulon, ac a ryveddasont y vot ef yn ymddiddan a gwraic: ny ddyvot neb hagen wrthaw, Beth a gaisy? ’n ai paam yr ymddiðeny a hi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar hyn daeth Ei ddisgyblion, a rhyfeddent mai â gwraig y siaradai; ni fu i neb, er hyny, ddywedyd, Pa beth a geisi? neu, Paham yr ymddiddani â hi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar hynny daeth ei ddisgyblion, a synnent ei fod yn siarad â merch, ond er hynny ni ddywedodd neb, ‘Beth yr wyt ti’n ei geisio?’ neu ‘Am beth yr wyt ti’n siarad â hi?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pryd daeth ei ddisgyblion yn ôl. Roedden nhw'n rhyfeddu ei weld yn siarad â gwraig, ond wnaethon nhw ddim gofyn iddi “Beth wyt ti eisiau?”, na “Pam wyt ti'n siarad gyda hi?” i Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar hyn daeth ei ddisgyblion yn l. Yr oeddent yn synnu ei fod yn siarad gwraig, ac eto ni ofynnodd neb, "Beth wyt ti'n ei geisio?" neu "Pam yr wyt yn siarad hi?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar hyn y daeth ei Ddysgyblion ef; ac yr oeddynt yn rhyfeddu ei fod ef yn ymddiddan â gwraig; ac eto ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?