John 4:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dewch, gwelwch wr a ddyuot i mi gymeint oll ar a wnaethym. Any d hwn yw’r Christ?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd wrth y dynion, Deuwch, gwelwch ddyn a ddywedodd wrthyf bob peth a wnaethum. Ai Hwn yw y Crist?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Dewch i weled dyn a ddywedodd wrthyf bopeth a wneuthum; tybed nad hwn yw’r Eneiniog?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum: onid hwn yw'r Crist?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dewch i weld dyn oedd yn gwybod popeth amdana i. Allai e fod y Meseia tybed?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dewch i weld dyn a ddywedodd wrthyf bopeth yr wyf wedi ei wneud. A yw'n bosibl mai hwn yw'r Meseia?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Deuwch, gwelwch ddyn, yr hwn a ddywedodd i mi yr oll, pa bethau bynag a wnaethum. A all hwn fod y Crist?