John 4:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn cyfamser, ydd archei y discipulon iddo, gan ddywedyt, Rabbi, bwyta.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn y cyfamser, gofynodd y disgyblion Iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwytta?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn y cyfamser, erfyniai ei ddisgyblion arno a dywedyd: “Rabbi, bwyta.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y cyfamser roedd ei ddisgyblion wedi bod yn ceisio ei gael i fwyta rhywbeth. “Rabbi,” medden nhw, “bwyta.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y cyfamser yr oedd y disgyblion yn ei gymell, gan ddweud, "Rabbi, cymer fwyd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn y cyfamser yr oedd ei Ddysgyblion yn ceisio ganddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta.