John 4:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A ny ddywedw‐chwi, Mae etwa petwar‐mis ic, ac yno y daw ’r cynayaf? Nychaf, y dywedaf y chwi, derchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y broydd: can ys gwynion ynt eisus ar gynayaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Onid ydych chwi yn dweud, Etto pedwar mis sydd, ac y cynhauaf a ddaw? Wele, dywedaf wrthych, Codwch eich llygaid, ac edrychwch ar y maesydd, mai gwynion ydynt eisoes i’r cynhauaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oni byddwch chwi ’n dywedyd, ‘Pedwar mis eto a bydd yn gynhaeaf,’ ond dyma fi’n dywedyd wrthych, ‘Codwch eich llygaid a sylwch ar y meysydd eu bod yn wynion i gynhaeaf.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw'r cynhaeaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meysydd; canys gwynion ydynt eisoes i'r cynhaeaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pobl yn dweud ‘Mae pedwar mis rhwng hau a medi.’ Dw i'n dweud, ‘Agorwch eich llygaid! Edrychwch ar y caeau! Mae'r cynhaeaf yn barod!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oni fyddwch chwi'n dweud, 'Pedwar mis eto, ac yna daw'r cynhaeaf'? Ond dyma fi'n dweud wrthych, codwch eich llygaid ac edrychwch ar y meysydd, oherwydd y maent yn wyn ac yn barod i'w cynaeafu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac y mae y Cynhauaf yn dyfod? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, a syllwch ar y meusydd eu bod yn wynion i'r Cynhauaf.