John 4:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yn hyn y mae’r gair yn wir, Mai vn a heuha, ac arall a ved.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yn hyn y mae’r gair yn wir, “Arall yw’r hauwr, ac arall y medwr.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
oherwydd yn hyn o beth y mae’r gair yn wir mai un sy’n heu ac arall yn medi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yn hyn y mae'r gair yn wir, Mai arall yw'r hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r hen ddywediad yn wir: ‘Mae un yn hau ac arall yn medi.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn hyn o beth y mae'r dywediad yn wir: 'Y mae un yn hau ac un arall yn medi.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yn hyn y mae y dywediad yn wir, Arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yw yr hwn sydd yn medi.