John 4:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi a’ch d anvoneis chvvi i vedi yr hyn ny’s llafurieso‐chwi vvrtho: eraill a lafuriesont, a’ chwi theu a aethoch y’w llafur hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Myfi a’ch danfonais i fedi yr hyn na lafuriasoch chwi; eraill a lafuriasant; a chwychwi, i’w llafur y daethoch i mewn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gyrrais i chwi i fedi’r hyn nid ydych wedi llafurio wrtho; eraill sydd wedi llafurio ac aethoch chwithau i mewn i’w llafur hwynt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi a'ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi'ch anfon chi i fedi cynhaeaf wnaethoch chi ddim gweithio amdano. Mae pobl eraill wedi gwneud y gwaith caled, a chithau'n casglu'r ffrwyth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonais chwi i fedi cynhaeaf nad ydych wedi llafurio amdano. Eraill sydd wedi llafurio, a chwithau wedi cerdded i mewn i'w llafur."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Myfi a'ch danfonais chwi i fedi yr hyn nid ydych wedi llafurio arno: eraill sydd wedi llafurio, a chwychwi sydd wedi myned i mewn i'w llafur hwynt.