John 4:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno llawer o’r Samarieit o’r dinas hono a gredesont ynd d aw, o bleit hyn a ddywedawdd y ’wraic yr hon a destolaethesei, Ef a ddyuot i mi gymeint oll a’r a wnaethym.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac o’r ddinas honno, llawer a gredasant Ynddo, ïe, o’r Shamariaid, oherwydd gair y wraig yn tystiolaethu, “Dywedodd wrthyf bob peth a wnaethum.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac o’r dref honno credodd llawer o’r Samariaid ynddo oherwydd gair y wraig yn tystio, “Dywedodd wrthyf bopeth a wneuthum.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llawer o'r Samariaid o'r ddinas honno a gredasant ynddo, oherwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd nifer o Samariaid y pentref wedi credu yn Iesu am fod y wraig wedi dweud, “Roedd yn gwybod popeth amdana i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth llawer o'r Samariaid o'r dref honno i gredu yn Iesu drwy air y wraig a dystiodd: "Dywedodd wrthyf bopeth yr wyf wedi ei wneud."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac o'r Ddinas hono llawer o'r Samariaid a gredasant ynddo o yherwydd gair y wraig, yr hon a dystiolaethodd, Efe a ddywedodd i mi yr holl bethau a wnaethum.