John 4:42 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a ddywed e sōt wrth y wreic, Ni d ym yn credu weithian o bleit a ddywedais‐ti: can ys ni a ei clywsom ef ynunain, ac a wyddam mai hwn yn ddiau yw ’r Christ ’sef Iachawdur y byd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wrth y wraig y dywedasant, Dim mwyach oherwydd dy siarad di y credwn, canys ni ein hunain a glywsom, a gwyddom mai Hwn yw, yn wir, Iachawdwr y byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedasant wrth y wraig: “Nid o achos dy siarad di yr ydym yn credu bellach, canys clywsom ein hunain, a gwyddom mai hwn mewn gwirionedd yw gwaredwr y byd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di: canys ni a'i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw'r Crist, Iachawdwr y byd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma nhw'n dweud wrth y wraig, “Dŷn ni'n credu bellach am ein bod ni wedi ei glywed ein hunain, nid dim ond o achos beth ddwedaist ti. Dŷn ni'n reit siŵr mai'r dyn yma ydy Achubwr y byd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddent wrth y wraig, "Nid trwy'r hyn a ddywedaist ti yr ydym yn credu mwyach, oherwydd yr ydym wedi ei glywed drosom ein hunain, ac fe wyddom mai hwn yn wir yw Gwaredwr y byd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a dywedasant wrth y wraig, Hwyach nid ydym yn credu o herwydd dy ymddiddan di; canys yr ydym ni ein hunain wedi ei glywed ef, ac yr ydym yn gwybod mai Hwn yn wir yw IACHAWDWR Y BYD.