John 4:43 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly a’r ben y ddau‐ddyð ef aeth ymaith o dd yno, ac aeth ir Galilaia.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi’r ddeuddydd aeth allan oddiyno i Galilea;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar ôl y ddeuddydd, aeth allan oddiyno i Galilea,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ymhen y ddeuddydd efe a aeth ymaith oddi yno, ac a aeth i Galilea.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl aros yno am ddau ddiwrnod dyma Iesu'n mynd yn ei flaen i Galilea.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymhen y ddau ddiwrnod ymadawodd Iesu a mynd oddi yno i Galilea.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar ol y ddeuddydd, efe a aeth allan oddi yno i Galilea.