John 4:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno wedy y ddyuot i’r Galilaia, y d erbynynt y Galilaieit ef, yr ei a wel e sont yr oll pethe a wnaethoedd oedd ef yn‐Caerusalem ar yr wyl: can ys wy hefyt a aethent ir ’wyl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pan ddaeth Efe, gan hyny i Galilea, derbyniodd y Galileaid Ef, wedi gweled o honynt yr holl bethau a wnaeth Efe yn Ierwshalem ar yr wyl, canys hwythau hefyd a ddeuent i’r wyl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly pan ddaeth i Galilea, derbyniodd y Galileaid ef ar ôl gweled popeth a wnaeth yng Nghaersalem ar yr ŵyl, oherwydd aethent hwythau hefyd i’r ŵyl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna pan ddaeth efe i Galilea, y Galileaid a'i derbyniasant ef, wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Jerwsalem ar yr ŵyl: canys hwythau a ddaethant i'r ŵyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan gyrhaeddodd Galilea cafodd groeso brwd gan y bobl oedd wedi bod yn Jerwsalem adeg Gŵyl y Pasg a gweld y cwbl oedd e wedi ei wneud yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gyrhaeddodd Galilea croesawodd y Galileaid ef, oherwydd yr oeddent hwythau wedi bod yn yr u373?yl ac wedi gweld y cwbl a wnaeth ef yn Jerwsalem yn ystod yr u373?yl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan ddaeth efe gan hyny i Galilea, y Galileaid a'i croesawasant ef, gan eu bod wedi gweled yr oll, pa bethau bynag a wnaeth efe yn Jerusalem ar yr Wyl: canys hwythau hefyd a ddaethant i'r Wyl.