John 4:46 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddaeth drachefyn i’ r Cana tref yn- Galilaia, lle gwnaethoedd oedd ef y dwfr yn ’win. Yr Euāgel yr xxi. Sul gwedy Trintot. ¶ Ac yð oeð ryw Pendevic ac yðaw vap yn glaf yn‐Capernaum.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Aeth, gan hyny, drachefn i Cana Galilea, lle y gwnaeth y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig, mab yr hwn oedd glaf yn Caphernahwm.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly daeth yn ôl i Gana Galilea, lle y gwnaethai’r dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw swyddog llys, a chanddo fab yn glaf, yng Nghapernaum.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Gana yng Ngalilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig, yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yng Nghapernaum.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth yn ôl i bentref Cana, lle roedd wedi troi'r dŵr yn win. Clywodd un o swyddogion llywodraeth Herod yn Capernaum
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Iesu unwaith eto i Gana Galilea, lle'r oedd wedi troi'r du373?r yn win. Yr oedd rhyw swyddog i'r brenin mab ganddo yn glaf yng Nghapernaum.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Efe a ddaeth gan hyny drachefn i'r Cana yn Galilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw swyddog breninol, yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yn Capernaum.