John 4:47 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan glypu ef ddyuot Iesu o’r Iudaia i’r Galilaia, ydd aeth ef ataw, ac a atolygawdd yddaw ddyvot i waret, ac iachay y vap ef, can ys ydd oedd e wrth vron marw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwn, wedi clywed fod yr Iesu wedi dyfod, o Iwdea i Galilea, aeth Atto, a gofynodd Iddo ddyfod i wared ac iachau ei fab ef, canys yr oedd ym mron marw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Clywodd hwnnw fod Iesu wedi dyfod o Iwdea i Galilea, a daeth ato ac erfyniodd arno ddyfod i lawr ac iacháu ’i fab, gan ei fod ar farw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan glybu hwn ddyfod o'r Iesu o Jwdea i Galilea, efe a aeth ato ef, ac a atolygodd iddo ddyfod i waered, a iacháu ei fab ef: canys yr oedd efe ymron marw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
fod Iesu wedi dod yn ôl o Jwdea i Galilea. Roedd mab y dyn mor sâl roedd ar fin marw, felly aeth y dyn i Cana i chwilio am Iesu ac ymbil arno i fynd i lawr i iacháu ei fab.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd hwn fod Iesu wedi dod i Galilea o Jwdea, aeth ato a gofyn iddo ddod i lawr i iachu ei fab, oherwydd ei fod ar fin marw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan glybu hwn ddyfod o'r Iesu o Judea i Galilea, efe a aeth ymaith ato ef, ac yr oedd yn atolygu iddo ddyfod i waered, a iachâu ei fab ef: canys yr oedd efe yn mron marw.