John 4:48 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Iesu wrthaw, A ny welwch arwyddion a ’ryveddodae, ny chredwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd yr Iesu, gan hyny, wrtho, Os nad arwyddion a rhyfeddodau a welwch, ni chredwch ddim.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly dywedodd yr Iesu wrtho: “Oni welwch arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch o gwbl.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Iesu, “Heb gael gweld arwyddion a gwyrthiau rhyfeddol wnewch chi bobl byth gredu!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrtho, "Heb ichwi weld arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch chwi byth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrtho, Oni welwch arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch o gwbl.