John 4:50 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Does ymaith, y mae dy vap yn vyw: a’ chredawdd y dyn y gair a ddywedesei’r Iesu wrthaw, ac aeth ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd yr Iesu wrtho, Dos; y mae dy fab yn fyw. A chredodd y dyn y gair a ddywedodd yr Iesu wrtho, ac aeth ei ffordd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yr Iesu wrtho: “Dos, y mae dy fab yn fyw.” Credodd y dyn y gair a ddywedodd yr Iesu, a chychwynnodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dos ymaith; y mae dy fab yn fyw. A'r gŵr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho, ac efe a aeth ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dos di,” meddai Iesu wrtho, “mae dy fab yn mynd i fyw.” Dyma'r dyn yn credu beth ddwedodd Iesu, a mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dos adref," meddai Iesu wrtho, "y mae dy fab yn fyw." Credodd y dyn y gair a ddywedodd Iesu wrtho, a chychwynnodd ar ei daith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed yr Iesu wrtho, Dos dy ffordd: Y mae dy fab yn fyw. Y gwr a gredodd y gair yr hwn a ddywedodd yr Iesu wrtho, ac a aeth i'w ffordd.