John 4:52 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y gofynawdd ef yddwynt yr awr y gwellaesei arnaw. Ac wy a ðywedesont wrthaw, Doe y seithfet awr y gadawdd y cryd ef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gofynodd, gan hyny, iddynt yr awr y gwellhasai arno. Dywedasant, gan hyny, wrtho, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y cryd ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly holodd hwynt am yr awr pan droes ar wella, ac meddent hwythau wrtho: “Doe ar y seithfed awr y gadawodd y dwymyn ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasai arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y cryd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd iddyn nhw pryd yn union wnaeth e ddechrau gwella, a dyma nhw'n ateb, “Diflannodd y gwres tua un o'r gloch p'nawn ddoe.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Holodd hwy felly am yr amser pan fu i'r bachgen droi ar wella, ac atebasant ef, "Am un o'r gloch brynhawn ddoe y gadawodd y dwymyn ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Efe gan hyny a ymofynodd â hwynt yr awr yn yr hon y cafodd dro er gwell. Hwythau gan hyny a ddywedasant wrtho, Doe, yn ystod y seithfed awr, y gadawodd y dwymyn ef.