John 4:53 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y gwybu’r tat ddarvot yn yr awr hōno y dywedesei ’r Iesu wrthaw, Mae dy vap yn vyw A’ chredy a wnaeth ef, a’ ei oll tuy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y gwybu’r tad mai yr awr honno ydoedd, yn yr hon y dywedodd yr Iesu wrtho, “Y mae dy fab yn fyw;” a chredodd, efe a’i dŷ i gyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly gwybu’r tad mai dyna’r awr y dywedodd yr Iesu wrtho, “Y mae dy fab yn fyw.” A chredodd ef a’i dylwyth i gyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y gwybu'r tad mai'r awr honno oedd, yn yr hon y dywedasai Iesu wrtho ef, Y mae dy fab yn fyw. Ac efe a gredodd, a'i holl dŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sylweddolodd y tad mai dyna'n union pryd ddwedodd Iesu wrtho, “mae dy fab yn mynd i fyw.” Felly daeth y dyn a phawb yn ei dŷ i gredu yn Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna sylweddolodd y tad mai dyna'r union awr y dywedodd Iesu wrtho, "Y mae dy fab yn fyw." Ac fe gredodd, ef a'i deulu i gyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y gwybu y tâd mai yn yr awr hono yn yr hon y dywedodd yr Iesu wrtho, Y mae dy fab yn fyw: ac efe ei hun a gredodd, a'i holl deulu.