John 4:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yno ydd oedd ffynnō Iaco v. Yno’r Iesu wedy’ blino y gan y daith a eisteddawdd velhyn ar y ffynnon yn cylch y chwechet awr ytoedd hi:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yr oedd yno ffynnon Iacob. Yr Iesu, gan hyny, wedi blino gan ei daith, a eisteddodd yn uniawn wrth y ffynnon; a’r awr oedd ynghylch y chweched.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yno yr oedd Ffynnon Iacob. A chan fod yr Iesu wedi blino gan y daith, eisteddodd fel yr oedd wrth y ffynnon, a thua’r chweched awr oedd hi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna lle roedd ffynnon Jacob. Roedd Iesu wedi blino'n lân, ac eisteddodd i orffwys wrth y ffynnon. Roedd hi tua chanol dydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yno yr oedd ffynnon Jacob, a chan fod Iesu wedi blino ar l ei daith eisteddodd i lawr wrth y ffynnon. Yr oedd hi tua hanner dydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yno yr oedd ffynon Jacob. Yr Iesu gan hyny, wedi diffygio gan y daith, a eisteddodd fel yr oedd wrth y ffynon: ynghylch y chweched awr oedd hi.