John 4:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot y wraic o Samareia wrthaw, Pa vodd yw a’ thy di yn Iuddew, y govynny ddiawt i mi, yr hon wyf ’wraic o Samareia? Can na d yw’r Iuddaeon yn ymgystlwng a’r Samareit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrtho, gan hyny, y dywedodd y wraig o Shamaria, Pa fodd yr wyt Ti, a Thydi yn Iwddew, yn gofyn genyf fi beth i’w yfed, a minnau yn wraig o Shamaria? canys nid ymgyfeillach Iwddewon â Sharmariaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly medd y wraig o Samaria wrtho: “Pa fodd yr wyt ti, a thithau’n Iddew, yn gofyn am ddiod gennyf i, a minnau’n Samaritanes?” (canys nid oes dim cyfathrach rhwng Iddewon a Samariaid).
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw'r Iddewon yn ymgyfeillach â'r Samariaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Iddew wyt ti,” meddai'r wraig, “Sut alli di ofyn i mi am ddiod? Dw i'n wraig o Samaria.” (Y rheswm pam wnaeth hi ymateb fel yna oedd fod Iddewon fel arfer yn gwrthod defnyddio'r un llestri â'r Samariaid.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma'r wraig o Samaria yn dweud wrtho, "Sut yr wyt ti, a thithau'n Iddew, yn gofyn am rywbeth i'w yfed gennyf fi, a minnau'n wraig o Samaria?" (Wrth gwrs, ni bydd yr Iddewon yn rhannu'r un llestri 'r Samariaid.)
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny y dywed y wraig, y Samariad, wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iuddew, yn ceisio genyf fi beth i yfed, a myfi yn wraig o Samaria? Oblegyd nid yw Iuddewon yn ymgyfeillachu â Samariaid.