John 5:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedyt am hyny o’r Iuðaion wrth hwn a wnaethesit yn iach, Dydd Sabbath yw hi: ny d yw gyfreithlawn y‐ti gymryd‐ymaith dy ’lwth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Sabbath ydoedd y dydd hwnw. Gan hyny, dywedodd yr Iwddewon wrth yr hwn a iachesid, Y Sabbath yw, ac nid yw gyfreithlawn i ti gymmeryd i fynu dy orwedd-beth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
am hynny dywedodd yr Iddewon wrth y dyn a iachasid: “Y mae hi’n Sabath, ac nid yw’n iawn iti godi’r gwely.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, Y Saboth yw hi: nid cyfreithlon i ti godi dy wely.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
felly dyma'r arweinwyr Iddewig yn dweud wrth y dyn oedd wedi cael ei iacháu, “Mae'n ddydd Saboth heddiw; rwyt ti'n torri'r gyfraith wrth gario dy fatras!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr Iddewon felly wrth y dyn oedd wedi ei iachu, "Y Saboth yw hi; nid yw'n gyfreithlon iti gario dy fatras."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny dywedodd yr Iuddewon wrth yr hwn oedd wedi ei wellhâu, Y Sabbath ydyw: ac nid cyfreithlawn i ti gyfodi i fyny y gwely.