John 5:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’hwn a iachaesit, ny wyddiat pwy ’n oedd ef: can ys yr Iesu a dynnesi ymaith y wrth y dyrfa ’oedd yn y van hono.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hwn a iachesid ni wyddai pwy ydoedd, canys yr Iesu a giliasai, gan fod tyrfa yn y fan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond ni wyddai’r hwn a iachasid pwy oedd, canys ciliasai’r Iesu gan fod tyrfa yn y lle.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe: canys yr Iesu a giliasai o'r dyrfa oedd yn y fan honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond doedd gan y dyn gafodd ei iacháu ddim syniad, ac roedd Iesu wedi llithro i ffwrdd am fod tyrfa fawr wedi casglu yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid oedd y dyn a iachawyd yn gwybod pwy oedd ef, oherwydd yr oedd Iesu wedi troi oddi yno, am fod tyrfa yn y lle.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hwn a iachasid ni wyddai pwy ydyw efe: oblegyd yr Iesu a ymneillduodd, gan fod tyrfa yn y lle.