John 5:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwedy hyny y cafas yr Iesu ef yn y Templ, ac addyuot wrthaw, Wely ith wnaeth p wyt yn iach: na phecha mwy ach, rac d yvot y‐ty beth a vo gwaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wedi hyny, yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml, a dywedodd wrtho, Wele, iachawyd di; na phecha mwyach, rhag i rywbeth gwaeth ddigwydd i ti.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi hynny caiff yr Iesu ef yn y cysegr a dywedodd wrtho: “Dyma di wedi dy iacháu; paid â phechu mwyach rhag digwydd rhywbeth gwaeth iti.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi hynny yr Iesu a'i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn nes ymlaen daeth Iesu o hyd i'r dyn yn y deml, a dweud wrtho, “Edrych, rwyt ti bellach yn iach. Stopia bechu neu gallai rhywbeth gwaeth ddigwydd i ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Maes o law daeth Iesu o hyd i'r dyn yn y deml, ac meddai wrtho, "Dyma ti wedi gwella. Paid phechu mwyach, rhag i rywbeth gwaeth ddigwydd iti."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ar ol y pethau hyn y mae yr Iesu yn ei gael ef yn y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, yr ydwyt wedi dyfod yn iach: na phecha mwyach, fel na ddygwyddo i ti beth a fyddo gwaeth.