John 5:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am hyny ydd erlidiynt yr Iuddeon yr Iesu, ac y caisynt y ladd ef, can y‐ dd aw wneuthy d y pethae hyn ar y d y dd Sabbath.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac o achos hyn erlidiodd yr Iwddewon yr Iesu, gan mai’r pethau hyn a wnelsai ar y Sabbath.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac am hynny yr oedd yr Iddewon am erlid yr Iesu, am ei fod yn gwneuthur y pethau hyn ar y Sabath.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac am hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Saboth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam dechreuodd yr arweinwyr Iddewig erlid Iesu — am ei fod yn gwneud pethau fel hyn ar y dydd Saboth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyna pam y dechreuodd yr Iddewon erlid Iesu, am ei fod yn gwneud y pethau hyn ar y Saboth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac o herwydd hyn yr oedd yr Iuddewon yn erlid yr Iesu,, oblegyd ei fod yn gwneuthur y pethau hyn ar y Sabbath.