John 5:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny y caisiai’r Iuddaeon yn vwy y ladd ef? ny d yn vnic can y dd‐ aw dori’r Sabbath: eithyr dywedyt hefyt mai Duw oedd ei Dat, a’i wneuthu’r y hun yn gy d stat a y Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O achos hyn, gan hyny, mwy y ceisiai yr Iwddewon Ei ladd Ef, oherwydd Iddo nid yn unig dorri’r Sabbath, eithr hefyd alw Duw yn Dad Iddo, gan wneuthur Ei hun yn gystal a Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny yr oedd yr Iddewon yn ceisio’n fwy ei ladd ef, am iddo nid yn unig dorri’r Sabath, ond hefyd alw Duw’n dad iddo’i hunan, a’i wneuthur ei hunan yn gyfartal â Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hyn gan hynny yr Iddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn unig iddo dorri'r Saboth, ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo, gan ei wneuthur ei hun yn gystal â Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am iddo ddweud hyn roedd yr arweinwyr crefyddol yn ceisio'n galetach fyth i'w ladd; doedd e ddim yn unig yn torri rheolau'r dydd Saboth, roedd hefyd yn galw Duw yn Dad iddo'i hun, a gwneud ei hun yn gyfartal â Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Parodd hyn i'r Iddewon geisio'n fwy byth ei ladd ef, oherwydd nid yn unig yr oedd yn torri'r Saboth, ond yr oedd hefyd yn galw Duw yn dad iddo ef ei hun, ac yn ei wneud ei hun felly yn gydradd Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd hyn yr oedd yr Iuddewon yn ceisio yn fwy ei ladd ef, canys nid yn unig yr oedd efe yn dirymu y Sabbath, ond hefyd dywedodd mai ei Dâd ei hun oedd Duw, gan ei wneuthur ei hun yn gyd‐radd â Duw.