John 5:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepawdd yr Iesu, ac y dyuot wrthwynt, Yn wir y dywedaf y chwi, Nyd aill y Map wneuthu’r dim o hanaw ehun, any d hyn a wyl ef y Tat yn y wneuthu’r: can ys pa bethae bynac a wna ef, y pethae hyny a wna’r Map hefyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, yr attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Ni all y Mab wneuthur dim o Hono Ei hun, oddieithr yr hyn a welo Efe y Tad yn ei wneuthur, canys pa bethau bynnag y mae Efe yn eu gwneuthur, y Mab hefyd yr un ffunud a’u gwna.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iesu felly a dywedodd wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, ni all y mab wneuthur dim ohono’i hunan, ond yr hyn a wêl y tad yn ei wneuthur. Canys y pethau a wnêl ef, dyna’r pethau a wna’r mab yn yr un modd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim ohono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae'r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddwedodd Iesu wrthyn nhw: “Credwch chi fi, dydy'r Mab ddim yn gallu gwneud unrhyw beth ohono'i hun; dim ond beth mae'n gweld ei Dad yn ei wneud. Dw i y Mab yn gwneud yn union beth mae'r Tad yn ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly atebodd Iesu hwy, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid yw'r Mab yn gallu gwneud dim ohono ei hun, dim ond yr hyn y mae'n gweld y Tad yn ei wneud. Beth bynnag y mae'r Tad yn ei wneud, hyn y mae'r Mab yntau yn ei wneud yr un modd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim o hono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tâd yn ei wneuthur: canys pa beth bynag y mae efe yn ei wneuthur, y pethau hyn hefyd y mae y Mab yr un modd yn eu gwneuthur.