John 5:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y mae yn‐Caerusalem wrth y ðevaidiawc ’lyn a elwir in Ebreo Bethesda, ac iddo pem p porth:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y mae yn Ierwshalem, wrth borth y defaid lyn a elwir yn Hebraeg Bethesda, ag iddo bum cyntor.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac y mae yng Nghaersalem, wrth y Ddefeidiog, lyn a’i enw Bethsatha yn Hebraeg, a phum porth iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae yn Jerwsalem, wrth farchnad y defaid, lyn a elwir yn Hebraeg, Bethesda, ac iddo bum porth;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn Jerwsalem wrth ymyl Giât y Defaid mae pwll o'r enw Bethsatha (enw Hebraeg). O gwmpas y pwll mae pum cyntedd colofnog gyda tho uwchben pob un.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae yn Jerwsalem, wrth Borth y Defaid, bwll a elwir Bethesda yn iaith yr Iddewon, a phum cyntedd colofnog yn arwain iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae yn Jerusalem, wrth Borth y Defaid, lyn a gyfenwir yn yr Hebraeg, Bethesda, ag iddo bum cyntedd: