John 5:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y Tat a gar y Map, ac a ðengys y‐ dd o pop peth oll, a’r wna a ynt ef, ac ef a ddengys y‐ dd aw weithredoedd mwy na ’r‐ein, val y bo y chwi ryveddu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys y mae’r Tad yn caru’r Mab, ac yn dangos Iddo bob peth y mae Efe yn ei wneuthur; a gweithredoedd mwy na’r rhai hyn a ddengys Efe Iddo, fel y bo i chwi ryfeddu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae’r tad yn caru’r mab ac yn dangos iddo bopeth a wna ei hunan, a gweithredoedd mwy na’r rhain a ddengys ef iddo nes synnu ohonoch:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y Tad sydd yn caru'r Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na'r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r Tad yn caru'r Mab ac yn dangos iddo bopeth mae'n ei wneud. Bydda i'n gwneud pethau mwy na iacháu'r dyn yma — pethau fydd yn eich syfrdanu chi hyd yn oed!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'r Tad yn caru'r Mab ac yn dangos iddo'r holl bethau y mae ef ei hun yn eu gwneud. Ac fe ddengys iddo weithredoedd mwy na'r rhain, i beri i chwi ryfeddu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y Tâd sydd yn caru y Mab, ac yn dangos iddo yr holl bethau y mae efe yn eu gwneuthur: a gweithredoedd mwy na'r rhai hyn a ddengys efe iddo, fel y rhyfeddoch chwi.