John 5:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys mal y cyvyt y Tat y meirw, ac ei bywha, velly y bywha y Map yr ei a ewyllysa ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys fel y mae’r Tad yn cyfodi’r meirw ac yn eu bywhau, felly y Mab hefyd a fywha y rhai a fynno:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
oherwydd fel y mae’r tad yn atgyfodi’r meirw ac yn eu bywhau, felly y mae’r mab hefyd yn bywhau y rhai a fynn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid megis y mae'r Tad yn cyfodi'r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae'r Mab yn bywhau y rhai a fynno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y Mab yn dod â pwy bynnag mae'n ei ddewis yn ôl yn fyw, yn union fel y mae'r Tad yn codi'r meirw a rhoi bywyd iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fel y mae'r Tad yn codi'r meirw ac yn rhoi bywyd iddynt, felly hefyd y mae'r Mab yntau yn rhoi bywyd i'r sawl a fyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd megys y mae y Tâd yn cyfodi y meirw, ac yn eu bywhâu, felly hefyd y mae y Mab yn bywhâu y rhai a fyno.