John 5:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yny bo i bawp anrydeðy y Map, mal yr anrydeddant y Tat: hwn nid yw yn anrydeddu ’r Map, ni d yw hvvnvv yn anrydeddu ’r Tat, yr hvvn y d anvonawdd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr pob barn a roddes Efe i’r Mab, fel y bo i bawb anrhydeddu’r Mab fel yr anrhydeddant y Tad. Yr hwn nad yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad, yr Hwn a’i danfonodd Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
er mwyn i bawb anrhydeddu’r mab fel y maent yn anrhydeddu’r tad. Yr hwn nid yw’n anrhydeddu’r mab, nid yw’n anrhydeddu’r tad a’i hanfonodd ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu'r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu'r Mab, nid yw yn anrhydeddu'r Tad yr hwn a'i hanfonodd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
er mwyn i bawb anrhydeddu'r Mab yn union fel y maen nhw'n anrhydeddu'r Tad. Pwy bynnag sy'n gwrthod anrhydeddu'r Mab, mae hefyd yn gwrthod anrhydeddu Duw'r Tad anfonodd y Mab i'r byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
er mwyn i bawb roi i'r Mab yr un parch ag a rnt i'r Tad. O beidio pharchu'r Mab, y mae rhywun yn peidio pharchu'r Tad a'i hanfonodd ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tâd. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tâd, yr hwn a'i hanfonodd ef.